Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Toriad: Dydd Llun 27 Mai 2013 - Dydd Sul 2 Mehefin 2013
Dydd Mawrth 4 Mehefin a dydd Mercher 5 Mehefin 2013
Dydd Mawrth 11 Mehefin a dydd Mercher 12 Mehefin 2013
Dydd Mawrth 18 Mehefin a dydd Mercher 19 Mehefin 2013
***********************************************************************
Dydd Mawrth 4 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu (60 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu o ran Pryfed Peillio (30 munud)
· Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol y Bil Teithio Llesol (Cymru) (60 munud)
· Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Teithio Llesol (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 5 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl Rheol Sefydlog 26.44 Cyfnod 3 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (60 munud)
“Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff yr Aelod sy'n gyfrifol gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir y cynnig:
Cynnig Rheol Sefydlog 26.47 Cyfnod 4 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer – Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud)
Dydd Mawrth 11 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Datganiad Polisi ar Addysg Uwch (45 munud)
· Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013 (15 munud)
Dydd Mercher 12 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer – Leanne Wood (Canol De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 18 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Strategaeth Pysgodfeydd Cymru (30 munud)
· Dadl Cyfnod 3 ar Fil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 (90 munud)
“Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir y cynnig:
Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.47
Dydd Mercher 19 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru) (Darren Millar) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)